CAIS CYNLLUNIO AR GYFER YSGOL GATHOLIG 3-16 AR SAFLE BRESENNOL CAMPWS ESGOB HEDLEY AG AR DIR I’R GORLLEWIN O HEOL GALON UCHAF

Fe fydd yr ysgol arfaethedig yn cymryd lle campws St Aloysius, Sant Illtyd, Santes Fair ac Esgob Hedley. Bwriad y cynllun yw i ddymchwel adeiladau presennol yr ysgol  ar campws yr Esgob Hedley (arwahan i’r neuadd chwaraeon fwy modern) ac ailddatblygu’r safle ar gyfer adeilad ysgol newydd, cyfleusterau chwaraeon a gwaith cysylltiedig.

Bydd yr ysgol newydd yn darparu ar gyfer 525 o ddisgyblion ysgol gynradd; 100 o ddisgyblion meithrin cyfwerth ag amser llawn; 600 o ddisgyblion (4 dosbarth mynediad) ysgol uwchradd; ynghyd a defnydd cymunedol. Yn ogystal, mae’r cynnig yn cynnwys cae chwaraeon a maes parcio dros dro i’r staff a chompownd i’r adeoladwyr ar dir i’r gorllewin o Heol Calon Uchaf.

Cyn cyflwyno’r cais cynllunio ffurfiol mae’n ofynnol i ni gynnal ymgynghoriad ffurfiol. Amlinellir manylion pellach isod.

YR YMGYNGHORIAD

GORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A THREF (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU) (CYMRU) 2012

Datblygiad arfaethedig ar Campws Esgob Hedley, Heol Gwaunfarren, Merthyr Tudful

Rydym yn hysbysu fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y datblygiad canlynol:

“Ailddatblygiad o safle bresennol Campws Esgob Hedley ar gyfer Ysgol Gatholig newydd gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon newydd, a gwaith cysylltedig (gan gynnwys tirweddu, mynediad, gweithrediadau peirianneg, maes parcio i’r staff a chompownd dros dro i’r adeiladwyr, a adeiladau dysgu dros dro).”

Cyn cyflwyno’r cais yn ffurfiol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn unol a gofynion Rhan 1A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, bydd y cais yn destun i ymgynghoriad.

Mae’r cynlluniau, adroddiadau a dogfennau ategol ar gael i’w harchwilio a’u hadolygu ar-lein, isod. Os nad ydych yn gallu cael mynediad at y dogfennau yn electronig, gallwch ymchwilio copiau caled o’r wybodaeth yn y lleolidau isod:

  • Canolfan Ddinesig, Heol Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN

I drefnu ymweliad i unrhyw un o’r pedwar campws isod, ffoniwch 01685 351870

  • Campws yr Esgob Hedley
  • Campws Sant Aloysius
  • Campws Sant Illtyd
  • Campws y Santes Fair

I drefnu ymweliad i unrhyw un o’r ysgolion isod, bydd rhaid cysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r manylion isod.

  • Ysgol Gynradd Gatholig San Margaret, Aberdâr – 01685 876072
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Brynmawr – 01495 31059
  • Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff, Tredegar – 01495 722899
  • Ysgol Gynradd Gatholig yr Holl Saint, Glyn Ebwy – 01495 303631

Dylai unrhyw un sydd yn dymuno gwneud sylwadau ynglŷn a’r datblygiad arfaethedig wneud erbyn 13eg Mawrth 2023. Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r ffurflen adborth ar wealod y dudalen yma. Fel arall, e-bostiwch eich sylwadau drwy ddefnyddio consultation@dppukltd.com, neu ysgrifennwch atom a’u gyrru i’r cyfeiriad:

DPP Planning, DESG, 11-13 Penhill Road, Caerdydd, CF11 9PQ.

CYNLLUNIAU A DOGFENNU ATEGOL

Ar gyfer hwylustod, mae’r prif gynlluniau a dogfennau wedi’u darparu isod gyda rhestr o’r holl ddogfennau perthnasol eraill sy’n ffurfio’r cais cynllunio ymhellach i lawr.

Cynllun Safle Arfaethedig

Lawrlwythwch Cynllun Safle Arfaethedig

Datganiad Dylunio a Mynediad

Datganiad Dylunio

FFURFLEN ADBORTH

Byddwch yn ymwybodol bod sylwadau a adewir ar unrhyw ymgynghorad cyhoeddus, naill ai drwy e-bost neu unrhyw ddull arall, yn amodol ar delerau ein Polisi Preifatrwydd.

Darllenwch y polisi hwn yn ofalus oherwydd trwy gyflwyno’r wybodaeth rydych yn caniatáu i ni ddefnyddio’ch data personol yn unol â’r Polisi Preifatrwydd.

Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar ein cronfa ddata ddiogel ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i’n cleientiaid. Efallai yr hoffem gysylltu â chi hefyd i roi gwybod i chi am ddatblygiadau yn y dyfodol mewn perthynas â’r ymgynghoriad hwn. Byddwch yn gallu optio allan o’r cyfathrebiadau hyn unrhyw bryd.